Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 9 Ionawr 2023
Amser:
13.31 -
15.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13178
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
2.1 SL(6)300 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)299 – Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)304 – Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi eu Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.3 SL(6)305 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
3.4 SL(6)306 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
3.5 SL(6)297 – Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
4.1 SL(6)279 - Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Compartmentau Dofednod a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4.2 SL(6)292 - Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4.3 SL(6)291 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
5 Fframweithiau cyffredin
5.1 Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Fframweithiau Cyffredin
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a’i nodi.
6 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
6.1 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rheoliadau Canolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau, Diddymu a Darpariaethau Trosiannol) 2023
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r llythyr gan y Gweinidog.
6.2 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
6.3 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.
6.4 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Presenoldeb yn y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r llythyr gan y Gweinidog.
6.5 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
6.6 Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyngor y Gweinidogion Addysg
Nododd y Pwyllgor y datganiad gan y Gweinidog.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg gartref
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog.
7.2 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
7.3 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid.
7.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Caffael
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.5 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ail Brotocol Ychwanegol i Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Seiberdroseddu
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
7.6 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.7 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a chytunwyd i ysgrifennu yn gofyn am eglurhad pellach.
7.8 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ysgolion
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.9 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.10Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.
10 Y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 3 a Rhif 4, a chytunodd arno.
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Banc Seilwaith y DU
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar Fil Banc Seilwaith y DU, chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.
13 Cytundebau rhyngwladol
Trafododd y Pwyllgor gytundebau rhyngwladol perthnasol. Cytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.